Beth yw ‘TAPPAS’?
Mae’r ‘Tîm o amgylch y Disgybl, y Rhiant a’r Lleoliad‘ – TAPPAS, yn grŵp o weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi ysgolion a theuluoedd o ran llesiant ac anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae’r tîm yn cynnwys seicolegydd addysgol, athro/athrawes arbenigol, therapyddion iaith a lleferydd, therapydd galwedigaethol, gweithwyr nyrsio ac iechyd meddwl sylfaenol a chwnselwyr ysgolion.
Mae’r tîm o weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â chlwstwr o ysgolion yn dîm sy’n cylchdroi o gwmpas yr ysgolion a’r teuluoedd yn rheolaidd gan ddarparu cymorth a chefnogaeth gynnar ymarferol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cyfarfodydd ymgynghori a chynllunio, a gynhelir ym mhob un o ysgolion Sir Benfro yn dymhorol, lle bydd timau arbenigol ac ysgolion yn trafod cymorth ‘cofleidiol’ ac ymyriad sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc unigol. (TAPPAS 1)
- Fforymau clwstwr tymhorol ar gyfer ysgolion, sy’n gyfle i ddatblygu trefniadau cydweithio rhwng ysgolion ac asiantaethau er mwyn cynyddu capasiti a datblygu dulliau gweithredu rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar atebion ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. (TAPPAS 2)
- Fforymau tymhorol ar gyfer teuluoedd sy’n rhoi cyfle i deuluoedd rwydweithio a chwrdd ag arbenigwyr er mwyn cael cyngor a chymorth. (TAPPAS 3)