Amdanom ni
Nod cyffredinol y Gwasanaeth Cynhwysiant yw sicrhau bod pob dysgwr yn Sir Benfro yn cyrraedd ei lawn botensial. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael yr un cyfleoedd a gwasanaethau â phawb arall ac yn derbyn addysg o safon uchel sy’n eang, yn gytbwys ac yn berthnasol ar gyfer eu hanghenion unigol.
Mae Strategaeth Cynhwysiant Cyngor Sir Penfro yn pennu’r egwyddorion sy’n llywio’r gwaith o ddarparu addysg gynhwysol yn Sir Benfro. Mae’r strategaeth yn nodi’n benodol y gall ac y dylai mwyafrif y dysgwyr o oedran ysgol gael eu haddysgu gydag eraill o’r un oedran â nhw yn eu hysgol gymunedol leol, sydd â’r cyfarpar priodol ac sy’n addas at y diben.