Cymorth a Darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae adran Cymorth a Darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol y wefan yn rhoi trosolwg o’r gwasanaethau arbenigol – pwy ydym ni, beth yr ydym yn ei wneud a phwy i gysylltu â nhw, ynghyd â pholisïau sy’n helpu ysgolion i ddatblygu eu strategaethau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae’r calendr digwyddiadau hefyd yn rhoi amlinelliad o’r rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer ysgolion.
Mae yna adran bwysig sy’n amlinellu rhai o’r newidiadau sy’n digwydd fel rhan o Raglen Diwygio Statudol newydd y fframwaith ADY.